Er mwyn deall y manteision, y problemau a’r rhwystrau i’n sefydliad yn sgil Amser i Symud, byddwn yn rhedeg Amser i Symud fel rhaglen beilot 12 mis a fydd yn dechrau ym mis Mehefin 2018.
Rhaglen wirfoddol yw Amser i Symud a chewch ddewis cymryd rhan neu beidio. Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn gwerthusiad a gaiff ei gynnal gan Dîm Ymchwil Hot House o Brifysgol Bangor.
Bydd hyn yn golygu cwblhau holiaduron ar-lein (bob 6 mis) a chymryd mesuriadau uniongyrchol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Beth a phwy.